Coronafeirws
Casglu gwybodaeth gyswllt ac olrhain cysylltiadau
Rydym yn agor ein drysau gan bwyll – Cinio Dydd Sul a te prynhawn.
Ewch i JR Events am ragor o wybodaeth.
Mae iechyd a lles ein cwsmeriaid, ein gweithwyr a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf i ni yma yn y Brangwyn.
Rydym yn monitro’r sefyllfa’n ofalus a byddwn yn parhau i adolygu polisïau ac arferion yn unol â chanllawiau swyddogol wrth iddynt ddatblygu.
Er bod y neuadd ar gau i’r cyhoedd, gallwch gysylltu â ni ar:
Swansea.grandreservations@swansea.gov.uk
Mae unrhyw sioeau a drefnwyd ar gyfer y cyfnod hwn wedi’u gohirio nes clywir yn wahanol. Rydym yn gweithio gyda hyrwyddwyr y sioeau a ohiriwyd i’w haildrefnu ar gyfer dyddiad yn y dyfodol. Os oes gennych docynnau ar gyfer unrhyw un o’r sioeau hyn bydd eich tocynnau’n ddilys ar gyfer y dyddiadau a aildrefnwyd a byddwch yn cadw’r un seddi.
Rydym yn diweddaru’n gwefan yn barhaol ac unwaith y byddwn yn cytuno ar ddyddiad amgen, caiff y dyddiadau newydd eu cyhoeddi yma – www.abertawe.gov.uk/swanseagrandtheatre/CoronavirusPostponements
Ar ôl eu cyhoeddi, os na allwch ddod ar y dyddiad newydd, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu trafod eich opsiynau gyda chi.
Y chi, ein cwsmeriaid ffyddlon, fydd y cyntaf i wybod os bydd unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau dros yr wythnosau nesaf.
O gerddoriaeth glasurol a chyfoes i wyliau bwyd a diod a chynadleddau mawr. Darganfyddwch beth sydd ar ddod yn Neuadd Brangwyn. Gall y dulliau cadw lle amrywio gan ddibynnu ar y gwahanol gwmnïau hyrwyddo digwyddiadau sy’n cynnal digwyddiadau yn y Brangwyn.
Dewiswch ddigwyddiad er mwyn cael yr wybodaeth benodol ar gyfer cadw lle.
Digwyddiadau Arbennig
Digwyddiadau Sydd Ar Ddod
May 2021
Jun 2021
Sep 2021
Nov 2021
Apr 2022
This post is also available in: English (English)