Carlos Miguel Prieto arweinydd
Daniel Ciobanu piano
Stravinsky – Concerto yn E fflat fwyaf, ‘Dumbarton Oaks’
Prokofiev – Concerto Piano Rhif 3 yn C fwyaf
Brahms – Symffoni Rhif 1 yn C leiaf
Sylwch fod y repertoire hwn ychydig yn wahanol i’r hyn a gafodd ei hysbysebu’n wreiddiol.
Comisiynwyd Dumbarton Oaks gan Stravinsky i ddathlu 30 mlynedd o briodas rhwng Mr a Mrs Robert Woods Bliss ac mae’r darn, sydd wedi’i enwi ar ôl eu plasty o’r 19eg ganrif, yn fwrlwm o gyffro, telynegiaeth rwydd ac alaw wedi’i phlethu’n gariadus.
Mae rhannau cyflym ac ergydiol yn cyfuno â harmoni trawiadol ac alawon llyfn mewn arddull unigryw na all fod yn ddim byd ond Concerto Rhif 3 i’r Piano gan Prokofiev. Mae’n bleser gennym gyflwyno’r pianydd hynod dalentog, Daniel Ciobanu, i berfformio’r darn arddangos cyffrous a lliwgar hwn i gynulleidfaoedd yng Nghaerdydd ac Abertawe.
O ddwysedd dyrchafedig y rhagarweiniad, drwy delynegiaeth sidanaidd, gyda mynegiant esgynnol a’r sgil i drawsnewid naws a themâu yn ofalus ac yn greadigol, mae symffoni gyntaf Brahms yn datblygu’n araf o naws emosiynol, tywyll i orfoledd tanbaid a diymatal. Ac yntau wedi’i ysbrydoli’n ddwfn gan Beethoven, aeth Brahms ati i ysgrifennu ei symffoni gyntaf yn 1854, ond roedd yn hynod o hunan-feirniadol, felly aeth 20 mlynedd a mwy heibio cyn iddo fod yn ddigon bodlon â’r symffoni i ganiatáu iddi gael ei pherfformio… a diolch byth am hynny, oherwydd mae’n gampwaith go iawn! I arwain, rydyn ni’n falch iawn o groesawu Carols Miguel Prieto i ymuno â ni unwaith eto.
Tocynnau: Llawn £15.00 & 23.00, 65+ £13.50 & £20.70, Myfywir £5.00
Tocyn Teulu (Swyddfa Tocynnau 01792 475715)
£15 1 oedolyn & 1-2 plant dan 16 oed.
£20 2 oedolion & 1-4 plant dan 16 oed.
This post is also available in: English (English)