Ryan Bancroft arweinydd
Steven Isserlis soddgrwth
Concerto i’r Soddgrwth
Shostakovich Symffoni Rhif 10
Daw’r tymor i ben wrth i’n Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, ddychwelyd, ochr yn ochr â’r cyfansoddwr meistrolgar Steven Isserlis, a fydd yn perfformio un o gyfansoddiadau mwyaf rhamantus Walton, ei Goncerto i’r Soddgrwth.
Byddwn wedyn yn troi at ddegfed symffoni Shostakovich sy’n dywyll, yn arswydus ac yn ddychrynllyd, ond sydd yn y pen draw yn goresgyn yr erchyllterau amhosibl. Mae’r mwyafrif yn credu ei fod yn cyfleu teyrnasiad Stalin dros Rwsia, ac mae’n brawf o etifeddiaeth y cyfansoddwr drwy gofnodi un o’r teyrnasiadau mwyaf cythryblus mewn hanes diweddar, gan ysbrydoli drwy allu canfod gobaith yn y sefyllfaoedd mwyaf digalon. Diweddglo cyffrous i dymor 21-22.
Tocynnau: Llawn £15.00 & 23.00, 65+ £13.50 & £20.70, Myfywir £5.00
Tocyn Teulu (Swyddfa Tocynnau 01792 475715)
£15 1 oedolyn & 1-2 plant dan 16 oed.
£20 2 oedolion & 1-4 plant dan 16 oed.
This post is also available in: English (English)