Maent wedi cyhoeddi naw albwm, mae ganddynt ddwy ffilm, sioe gerdd, llyfr a rhaglen ddogfen ar y teledu amdanynt, ac maent wedi perfformio ar gyfer y teulu brenhinol ac i ddegau ar filoedd o gefnogwyr ar deithiau y gwerthwyd pob tocyn ar eu cyfer flwyddyn ar ôl blwyddyn… Na, nid The Beatles, Slade, Take That neu One Direction ydyn nhw, ond The Fisherman’s Friends! Grŵp pop bechgyn hynaf Prydain gydag oedran cyfunol o 401 (a thri chwarter).
“Rydym yn gyffrous iawn i ganu’n fyw am ein swper unwaith eto – rydym yn dwlu arno,” meddai’r aelod sefydlu a’r gitarydd bas gyda mwstas arbennig, Jon Cleave.
Ddegawd yn ôl, perswadiwyd The Fisherman’s Friends i lofnodi cytundeb recordio gwerth miliwn o bunnoedd, ac yn dilyn hyn cawsant albwm aur gyda’u halbwm Port Isaac’s Fisherman’s Friends gan ddod y grŵp gwerin traddodiadol cyntaf erioed i gael albwm yn y 10 uchaf yn siartiau’r DU.
Mae The Fisherman’s Friends yn cynnwys Jeremy Brown, pysgotwr cimwch, Jon Cleave, cyfansoddwr/perchennog siop, John ‘Lefty’ Lethbridge, tyddynnwr a pheiriannydd, John McDonnell, adeiladwr (dyn o Swydd Efrog a ymwelodd â Phort Isaac dros 30 o flynyddoedd ac sydd dal yno heddiw), Jason Nicholas, pysgotwr o Badstow, Toby Lobb, gwneuthurwr ffilmiau a’r aelod newydd, cyn-yrrwr ambiwlans Pete Hicks.
Tocynnau: £27.00 – £35.50
This post is also available in: English (English)