Heb os, mae’r Ŵyl Prosecco’n ddigwyddiad na ddylai’r rheiny sy’n hoff o’r swigod ei golli, ac mae’r amseru’n ddelfrydol ar gyfer parti Nadolig y swyddfa!
Bydd ein ffrindiau yn JR Events & Catering yn llenwi Neuadd Brangwyn â gorsafoedd yn cynnig dros 40 o fathau gwahanol o brosecco, spumante, cava, brut, swigod pinc a hyd yn oed coctels prosecco. I’r rheiny nad ydynt yn hoff o’r swigod, bydd ardal lager mewn poteli ar gael hefyd.
Ni fyddai Gŵyl Prosecco’n gyflawn heb amrywiaeth hynod flasus o fwyd stryd Eidalaidd sydd ar gael i’w brynu ac a fydd yn ategu’r swigod yn fendigedig.
Bydd amrywiaeth o berfformwyr a chantorion byw ar y llwyfan yn ystod pob sesiwn, gan gynnwys band byw a fydd yn eich denu i’r llawr dawnsio, felly cofiwch eich esgidiau dawnsio!
Tocynnau
£9.50