Daeth Jason Donovan i’n bywydau yn yr 80au hwyr fel Scott Robinson yn y gyfres boblogaidd o Awstralia, Neighbours. Yn ystod 1988/89, cafodd nifer o ganeuon poblogaidd a’i albwm ‘Ten Good Reasons’ oedd albwm mwyaf poblogaidd 1989. Roedd ei ganeuon mwyaf poblogaidd yn cynnwys Too Many Broken Hearts, Especially For You (gyda Kylie Minogue), Any Dream Will Do, Sealed With A Kiss, When You Come Back to Me, Everyday, Nothing Can Divide Us a llawer mwy.
Ers hynny, mae wedi bod ar y llwyfan neu’r teledu’n gyson. Cafodd Jason ei gyfnod a dorrodd pob record yn sioe ‘Joseph‘ yn y 90au cynnar cyn serennu mewn sioeau cerdd a dramâu niferus, gan gynnwys ‘The Rocky Horror Show‘, ‘Chitty Chitty Bang Bang‘ a ‘Priscilla‘.
Yn 2018/19 aeth Jason ar daith ar draws y wlad, a pherfformiodd 125 o weithiau ar ei daith Amazing Midlife Crisis, gan gynnwys wythnos yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, lle gwerthwyd pob tocyn.Yn ddiweddar, gweithiodd ar ei brosiect cyfarwyddo cyntaf yn y theatr ar gyfer sioe ‘Priscilla Queen Of The Desert‘ a dychwelodd i’r Palladium yn Llundain i chwarae rhan y ffaro yn y sioe ‘Joseph and his Amazing Technicolor Dreamcoat‘ a werthodd pob tocyn.
Mae Jason yn awyddus iawn i ddechrau ei daith gyntaf ers pedair blynedd gyda’i daith ‘Even More Good Reasons’. Peidiwch â’i cholli!
Tocynnau: £38.00 – £47.00
This post is also available in: English (English)