Ar gyfer Nadolig 2018, mae G4 yn cyflwyno un o’u teithiau Nadoligaidd mwyaf erioed gyda 24 o ddyddiadau ar draws y DU gan gynnwys Neuadd Brangwyn fawreddog Abertawe.
Bydd y perfformiadau personol hyn yn cynnwys Jonathan, Lewis, Mike a Nick yn cofio profiadau cerddorol o’u plentyndod. Gallwch ddisgwyl clywed clasuron bythol fel When A Child is Born, Silent Night ac All I Want For Christmas, yn ogystal ag alawon i godi hwyl yr ŵyl arnoch, â’r cyfan yn cael ei gyflwyno yn un o leoliadau mwyaf eiconig Cymru.
Mae teithiau Nadolig G4 bob amser mewn cydweithrediad â’r elusen Missing People, sy’n darparu gwasanaeth allweddol pan fydd rhywun yn mynd ar goll. Cododd taith Nadolig y llynedd dros £14,000 ar gyfer Missing People a rhai elusennau eraill ar ffurf casgliadau mewn bwcedi a wnaed ar ddiwedd bob sioe yn unig.
Tocynnau
£18.50 – £27.50
Mae tocynnau VIP ar gael, gan gynnwys cyfle i gwrdd ag aelodau G4 cyn y sioe am 6pm am £67.50.