Yn llawn ffefrynnau’r ŵyl, Cyngerdd yng Ngolau Cannwyll Neuadd Brangwyn yw’r ffordd berffaith o ddechrau’ch dathliadau Nadolig gyda’r teulu.
Dan arweiniad Alwyn Humphries, a chyda pherfformiadau unigol gan brif fenyw Abertawe, Ros Evans, bydd Cerddorfa Siambr a Chorâl Cymru’n llenwi Neuadd Brangwyn â digon o hwyl yr ŵyl.
Oherwydd ei fod yn Nadolig, beth am gael gwydraid o win y gaeaf a mins-pei? Bydd bwyd Nadoligaidd ar gael yn ‘Bar Frank’ yn ogystal â’r lluniaeth arferol.
Tocynnau: £16.50
Sylwer – Ni fydd y llwyfannu’r un peth â llwyfannu croes y llynedd gan y bydd y perfformiad yn dychwelyd i’r prif lwyfan. Mae hyn yn golygu y bydd aelodau’r gynulleidfa yn rhesi A i H yn edrych i fyny ar y perfformwyr. Os bydd hyn yn anghyfforddus i chi, archebwch docynnau o res J yn ôl.