
Date/Time:
Date(s) - 12/10/2022
7:00 pm
Daeth taith flaenorol y band i hyrwyddo Bright Magic i ben gyda sioe y gwerthwyd pob tocyn iddi yn Academi Brixton Llundain, ac maen nhw wrth eu boddau i fod ar daith unwaith eto gyda chyfres arall o sioeau.
Cyrhaeddodd Bright Magic rif 2 yn siartiau albwm y DU, ac mae’n cynnwys y recordiau sengl Blue Heaven, People, Let’s Dance ac Im Licht, a ganmolwyd yn fawr gan 6Music.
Dyma ychydig o’r clod a roddwyd i’w halbwm diwethaf, Bright Magic:
“Dyma albwm arbennig o dda sy’n cadarnhau enw da PSB fel band sy’n perfformio i’r eithaf” – Clash 9/10
“Dyma albwm gorau a mwyaf uchelgeisiol PSB hyd yn hyn. Mae’r albwm hwn wedi cyrraedd y brig o ran creadigrwydd, ac mae’n mynd i fod yn anodd cyhoeddi unrhyw beth sy’n well” – Electronic Sound
“Mae Bright Magic yn cynnig cymysgedd wych o ganeuon tawel a nerthol, sy’n hel atgofion o gerdded yn ôl o’r clwb pan fo toriad dydd a’r cyfnos yn llifo’n un. 4/5
Categories
This post is also available in: English (English)