Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ailddiffinio cyngerdd cerddorfaol gyda pherfformiad a gynhelir yn Neuadd Brangwyn. Bydd yn cynnwys rhaglen amrywiol o gerddoriaeth a gyflwynir dros dri llwyfan, gall y gynulleidfa ddisgwyl profiad y gellir ymgolli ynddo’n llwyr.
Dewch â’ch diod a’ch clustog a gallwch eistedd, sefyll neu orwedd wrth i chi fwynhau’r awyrgylch hudolus.
Dyma ddigwyddiad i’r teulu cyfan ac mae’n gyfle perffaith i unrhyw un sydd am wrando ar gerddoriaeth glasurol am y tro cyntaf.
Tocynnau: £15/£5 myfyrwyr/plentyn