Digwyddiad cymunedol blynyddol yw Mela Indiaidd Abertawe, sy’n dangos diwylliant ac amrywiaeth cyffrous y gymuned Indiaidd yn Abertawe ac yng Nghymru. Mae’r sefydliad elusennol, Cymdeithas Indiaidd De-Orllewin Cymru, wedi bod yn trefnu’r digwyddiad hwn ers nifer o flynyddoedd yn Neuadd Brangwyn Abertawe.
Mae croeso i chi ddod i gefnogi ac i fwynhau amrywiaeth o ddigwyddiadau adloniant gwych, sy’n amrywio o ddawnswyr profiadol i berfformiadau gan blant. Dewch i flasu’r amrywiaeth hyfryd o fwydydd Indiaidd sydd ar werth, gan gynnwys bwyd stryd llysieuol ac anllysieuol. Cymerwch ran mewn gweithdai sy’n ymwneud â choginio Indiaidd, dysgwch sut i wisgo sari a phrofwch eich sgiliau dawnsio gyda dawnsio gwerin. Gallwch ddysgu sgiliau sylfaenol ioga neu fwynhau addurno eich dwylo drwy eu lliwio â henna. Mae gennym hefyd amrywiaeth o stondinau sy’n arddangos yr hyn sy’n newydd ym myd ffasiwn a chelf a chrefft. Am y tro cyntaf eleni, rydym yn trefnu ‘sioe ffasiwn’ i arddangos undeb mewn amrywiaeth, a fydd yn cynnwys staff y GIG, myfyrwyr Prifysgol Abertawe ac aelodau. Rydym hefyd yn cynnal arwerthiant celf o baentiadau, y bydd yr elw’n cael ei roi i ffoaduriaid yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel yn Wcráin.
Mae’n anrhydedd i ni groesawu nifer o urddasogion i’r digwyddiad, gan gynnwys Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y Cynghorydd Mary Jones, Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Abertawe, Mr Raj. Aggrawal, Conswl Anrhydeddus Cymru ar ran Uchel Gomisiwn India, swyddogion Heddlu De Cymru a’r Lluoedd Arfog, uwch-academyddion o Brifysgol Abertawe, staff y GIG a llawer mwy.
Caiff taflen Mela, sy’n cynnwys detholiad o erthyglau a rysáit draddodiadol, ei dosbarthu am ddim o’r dderbynfa ar ddiwrnod y digwyddiad.
£4 y tocyn. Mae mynediad am ddim i blant dan 5 oed. Nid oes angen cadw lle. Gwerthir y tocynnau wrth y fynedfa.
This post is also available in: English (English)