Casglu gwybodaeth gyswllt ac olrhain cysylltiadau – gofyniad cyfreithiol
Diben strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yw rheoli lledaeniad brigiadau newydd o achosion, ond er mwyn i hyn fod yn effeithiol mae’n hanfodol cael gwybodaeth ynglŷn â ble y gallai’r unigolion hynny sydd wedi cael canlyniad positif i brawf fod wedi dod i gysylltiad â phobl eraill.
Felly, wrth i fwy a mwy o bobl fynd i’r un lleoedd ag eraill, mae gan fusnesau sy’n gweithredu mewn sectorau lle mae risg uwch o ledaenu’r coronafeirws rôl allweddol o ran cefnogi’r broses o olrhain cysylltiadau a diogelu Cymru.
Dylai pob busnes sy’n agored i’r cyhoedd roi trefniadau llym ar waith i gydymffurfio a dylent ddilyn y canllawiau cadw’n ddiogel yn y gwaith. Mae’n ofynnol o dan gyfraith Cymru i weithleoedd a mangreoedd sy’n agored i’r cyhoedd gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae angen mesurau i leihau’r rhyngweithio agos, wyneb yn wyneb, er enghraifft drwy ddefnyddio sgriniau diogelu, aildrefnu’r dodrefn a ffitiadau eraill, rheoli llif pobl neu wisgo offer diogelu personol. Bydd hyn yn lleihau’r angen i’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu gychwyn y broses olrhain cysylltiadau os bydd aelod o staff, cwsmer neu ymwelydd â mangre yn cael prawf positif am y coronafeirws.
Ond, os bydd unrhyw unigolyn yn cael prawf positif, bydd angen i’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu gael gwybod ble mae’r person hwnnw wedi bod, a gyda phwy y mae wedi bod mewn cysylltiad. Os yw’r person hwnnw wedi bod mewn mangre sy’n agored i’r cyhoedd, mae’n bosib na fydd yn adnabod y bobl y mae wedi bod mewn cysylltiad â hwy. Felly, mae disgwyl i rai busnesau penodol, megis Neuadd Brangwyn, gasglu gwybodaeth am y bobl sydd wedi bod yno, a pha bryd, a’i chadw am 21 diwrnod.
Pa wybodaeth y mae angen ei chasglu?
Digon o wybodaeth i allu cysylltu â’r person i roi gwybod iddo y gallai fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws.
Cwsmeriaid ac ymwelwyr
- Enwau cwsmeriaid neu ymwelwyr, neu os yw’n grŵp o bobl sy’n aelodau o aelwyd neu aelwyd estynedig, enw un aelod o’r grŵp – yr ‘aelod arweiniol’.
- Rhif ffôn cyswllt ar gyfer pob cwsmer neu ymwelydd, neu ar gyfer aelod arweiniol grŵp o bobl.
- Dyddiad yr ymweliad, a’r amser cyrraedd a gadael.
Beth os nad yw rhywun am rannu ei fanylion?
Bydd rhannu’r manylion yn helpu gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru i reoli lledaeniad y feirws. O dan yr amgylchiadau a nodir uchod, mae’n ofynnol o dan reoliad 12 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 i sefydliadau a busnesau gasglu a chadw’r wybodaeth.
Anogir unigolion i rannu eu manylion. Caiff manylion eu defnyddio os bydd achos, clwstwr neu nifer o achosion newydd o’r coronafeirws yn cael eu holrhain yn ôl i’ch mangre yn unig. Bydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yn defnyddio’r wybodaeth hon i ganfod a allai’r unigolyn, neu unrhyw un yn ei grŵp, fod wedi dod i gysylltiad â’r feirws.
Os yw’r unigolyn yn dal yn anfodlon rhannu ei fanylion, a mae dyletswydd ar y lleoliad i gasglu’r manylion hynny, ni ddylid caniatáu iddo ddod i’r fangre.
Cyngor Abertawe Hysbysiad Preifatrwydd Profi, Olrhain, Diogelu
This post is also available in: English (English)