Brangwyn Hall

An iconic concert and conference venue

  • Hafan
  • Digwyddiadau
    • EXTRAS Cynllun Aelodaeth
    • Amodau a Thelerau Gwerthu
  • Ymweld â ni
    • Mesurau Diogelwch Covid-19
    • Bwyd a Diod
    • Hygyrchedd
    • Sut i ddod o hyd i ni
    • Adolygu’ch profiad
  • Llogi’r Lleoliad
    • Cynadleddau ac Arddangosfeydd
    • Cyngherddau a Digwyddiadau
    • Priodasau a Dathliadau
    • Gwneud ymholiad am gadw lle
  • Gwybodaeth
    • Yr Hanes
    • Paneli’r Brangwyn
    • Oriel
    • Cysylltwch â Ni
    • Ymunwch â’n rhestr bostio
  • Cymraeg
    • English
Rwyt ti yma: Hafan / Gwybodaeth / Organ Willis Neuadd Brangwyn

Organ Willis Neuadd Brangwyn

Hanes yr organ

Mae hanes Neuadd Brangwyn yn dechrau ym 1929, pan wnaeth Cyngor Abertawe hyrwyddo cystadleuaeth bensaernïol am adeiladau dinesig newydd gan gynnwys neuadd gynnull at bwrpas cyffredinol. Er mai’r bwriad oedd defnyddio’r neuadd i gynnal cyngherddau, mae’n ymddangos nad oedd cynlluniau i gynnwys organ. Ym mis Mai 1934, prin bum mis cyn cwblhau ac agor y neuadd, cysylltodd ysgutorion Syr Griffith Thomas â’r gorfforaeth, gan gynnig £3,000 o bunnoedd tuag at osod organ. O hynny ymlaen, cysylltodd Cyngor Abertawe â nifer o gwmnïau organ gan gynnwys Willis, a ddarparodd ddau gynllun, yn ogystal â hysbyseb ar gyfer organ ail-law a oedd ar werth am ‘hanner pris’. Gofynnodd y cyngor am arweiniad gan Syr Walford Davies, Meistr Cerddoriaeth y Brenin, a gymeradwyodd yr organ ail-law, ar yr amod bod newidiadau yn cael eu gwneud iddi. (fe’i hadeiladwyd ym 1921 ar gyfer sinema Elite yn Nhŷ Ogofog). Erbyn mis Awst 1934, ar ôl derbyn cyngor ffafriol gan Syr Walter Alcock, organydd yn Eglwys Gadeiriol Caersallog, rhoddwyd cynnig cadarn amdani, a chwblhawyd y gwaith o osod yr organ gan achosi oedi byr yn unig i agoriad y neuadd ym mis Hydref 1934. (Am fwy o fanylion ynghylch hanes yr organ a sut y datblygodd i’w chyfluniad presennol, gweler The Brangwyn Hall Organ, llyfr a ysgrifennwyd gan J.R. Alban a J.M. Fussell.)

Dan arweiniad medrus John Fussell, Cyfarwyddwr Cerdd ac Organydd y Ddinas (1970-1990), cwblhawyd rhaglen o waith adnewyddu ar yr organ, gyda rhai ychwanegiadau tonyddol wrth gadw tonyddiaeth wreiddiol, ysblennydd organ Willis, a oedd yn nodweddiadol o’r 1900 cynnar pan oedd y cwmni’n gosod organau mawr mewn eglwysi cadeiriol (e.e. Eglwys Gadeiriol Lerpwl ac Eglwys Gadeiriol Westminster). Mae’r organ gyngerdd â phedwar chwaraefwrdd, â dros 3500 o bibau ac mae’r amrywiadau o bedalau, pedal mawr, pedal chwyddo, pedal organ gôr, pedal solo, yn darparu offeryn hardd i gyfeilio i gorau, at ddefnydd unawdol neu wedi’i chyfuno â cherddorfa, fach neu fawr.

Mae’n anhygoel fod murluniau’r Brangwyn wedi dod i feddiant neuadd mor gain. Mae’r cyd-ddigwyddiad hwnnw rhwng derbyn rhodd ariannol amserol ag argaeledd organ â manylion y tu hwnt i ddychymyg Abertawe yn anghredadwy! Mae’r organ yn gymaint o drysor i Abertawe ag yw’r paentiadau. Gyda’i gilydd, maent yn darparu neuadd gyngherdd â naws unigryw. Profwyd gwerth yr organ mewn achlysuron dinesig di-ri, seremonïau graddio a chyngherddau. Mae cyngherddau amser cinio diweddar wedi profi’n boblogaidd ac mae’r organ yn parhau i ddenu organyddion proffesiynol ar draws y DU i berfformio’n ddi-dâl.

Dylai ymwelwyr sy’n dymuno canu’r organ, gysylltu â Rheolwr y Neuadd yn gyntaf, gan ganiatáu digon o amser i wneud trefniadau priodol. Mae’n rhaid cael caniatâd arbennig i wneud recordiadau ar achlysurol o’r fath.

Manylion Organ Neuadd Brangwyn

Gallwch roi arian ar gyfer cynnal a chadw Organ Willis Neuadd Brangwyn yma: www.abertawe.gov.uk/RhowchBrangwyn

This post is also available in: English (English)

DILYNWCH Y BRANGWYN

Tanysgrifiwch i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am y prif ddigwyddiadau a gynhelir yn y Brangwyn eleni:
  • facebook
  • twitter
  • mail

chwilio

Dolenni cyflym

  • Gweld digwyddiadau diweddaraf
  • Trefnu Cynhadledd neu Gyfarfod
  • Trefnu Priodas
  • Ymholiadau am Gyngherddau a Gigs

YMUNWCH Â’N RHESTR BOSTIO

Beth am danysgrifio a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prif ddigwyddiadau yn Neuadd Brangwyn eleni:

TANYSGRIFIO

Cyngor Abertawe.

Mae Neuadd Brangwyn yn cael ei rheoli gan Cyngor Abertawe.

Copyright © 2022 · Swansea Council · Privacy Policy

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT