Rydym yn cael problemau technegol gyda’n cyfleuster talu ar wefan Neuadd Brangwyn. Fel mesur dros dro i archebu tocynnau, cliciwch ar ‘Archebwch nawr’ lle cewch eich trosglwyddo i gyfleuster talu gwefan Croeso Bae Abertawe Cyngor Abertawe (www.croesobaeabertawe.com) sydd hefyd yn trafod archebion ar gyfer Neuadd Brangwyn. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.
Mae OH WHAT A NIGHT! yn mynd â chi ar daith gerddorol drwy yrfa anhygoel Frankie Valli & The Four Seasons.
Roedd llais adnabyddus Valli yn flaenllaw ar y radio am dros ddau ddegawd, gyda chlasuron fel Sherry, Let’s Hang On, Big Girls Don’t Cry, Can’t Take My Eyes Off You, My Eyes Adored You, December 63 (Oh What A Night), Bye Bye Baby, Who Loves You a llawer, llawer mwy.
Mae OH WHAT A NIGHT! yn cyfuno personoliaethau hoffus, lleisiau rhyfeddol, harmonïau rhagorol a symudiadau dawns hyd yn oed mwy rhagorol i gyflwyno sioe egnïol a hiraethlon a fydd yn eich gadael yn awchu am ragor!
Peidiwch â cholli’r dathliad gorau oll o un o fandiau roc a rôl mwyaf llwyddiannus y byd!
This post is also available in: English (English)