Rydym yn falch o’n henw da pan ddaw i fwyd blasus yma yn y Brangwyn oherwydd rydym yn gwybod y gall bwyd o safon ychwanegu at unrhyw ddigwyddiad.
Dyma pam ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â JR Catering, un o’r arlwywyr gorau yn ne Cymru, i roi profiad gwledda o safon i chi. Y prif gogydd yw un o’r ychydig yn y wlad i ennill rhoséd yr AA.
Mae JR Catering wedi cynnal cannoedd o briodasau a digwyddiadau ledled y wlad a darparu gwasanaeth arlwyo ynddynt, ac un o’r nodweddion enwog amdanynt yw eu bwydlenni hyblyg sydd wedi’u teilwra.
Gyda phrofiad proffesiynol a helaeth o arlwyo a chynnal digwyddiadau, byddwn yn sicrhau y bydd eich digwyddiad yn y Brangwyn yn wahanol i’r arfer.
This post is also available in: English (English)