Neuadd Brangwyn
- Mae lift allanol o dan risiau mynedfa’r Brangwyn ar Heol y DeFelly defnyddiwch y fynedfa hygyrch i mewn i Neuadd y Ddinas, ar Heol y De. Mae’r lift y tu mewn i’r fynedfa ar yr ochr chwith cyn y drysau dwbl. Defnyddiwch fotwm 1 i fynd i mewn i Neuadd Brangwyn drwy Neuadd Siôr (mae’r rhan fwyaf cul o’r llwybr yn 750mm o led).
- Mae toiled hygyrch i bobl anabl ym mar y Brangwyn
- Mae toiled Changing Places ar gael ym mar y Brangwyn (a cheir mynediad iddo gydag allwedd RADAR – mae allwedd ar gael gan staff y bar a stiwardiaid y neuadd).
- Mae cyfleusterau newid cewynnau ar gael ym mar y Brangwyn
Neuadd Siôr
- Gellir cyrraedd Neuadd Siôr mewn cadeiriau olwyn o fynedfa Neuadd y Ddinas, Heol y De, drwy’r lifft (botwm 1) ger y fynedfa (mae rhan gulaf y llwybr yn 750mm o led).
Neuadd y Ddinas
Mynedfa Hygyrch
- Heol y De
- Fe’ch cynghorir i ffonio’r swyddogion diogelwch (01792 636000) os oes angen mynediad arnoch ar ôl 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu dros y penwythnos.
Siambr y Cyngor, Parlwr yr Arglwydd Faer, Ystafell Dderbyn ac Ystafelloedd Pwyllgor
- Ar y llawr gwaelod uwch
- Mynediad drwy fynedfa hygyrch Heol Neuadd y Ddinas De a’r lifft (botwm 2)
Toiledau Hygyrch i Bobl Anabl
- Neillryw – Llawr gwaelod is (ardal y dderbynfa)
- Llawr cyntaf (gyferbyn â Pharlwr yr Arglwydd Faer)
- Menywod – ar ochr y gogledd, ger y lifftiau ar y llawr gwaelod, y llawr cyntaf a’r ail lawr
Parcio:
Canllaw Trafnidiaeth Brangwyn (Saesneg) (PDF)
Canllaw Parcio Guildhall (Saesneg) (PDF)
This post is also available in: English (English)