Mae gan Neuadd y Ddinas nifer o fanylion pensaernïol. Mae’r adeilad wedi’i orchuddio â Charreg Portland, sydd wedi’i gadael yn blaen, neu wedi’i modelu, neu wedi’i hendorri gyda’r nod o greu cysgodion a mannau o ddiddordeb pwysig. Ceir sgriniau efydd enfawr ger y mynedfeydd.
Y tu mewn, gwelir mwy o addurniadau, ond eto, mae cynildeb amlwg yn y defnydd o nodweddion. Yn gyffredinol, golch lliw a ddefnyddir ar y waliau mewnol, gyda drysau wedi’u nodi gan architrafau trwm mewn dull syml. Mae’r gwaith plaster wedi’i addurno â chornisiau a philastrau, a defnyddir pren collen Ffrengig pan fydd pren naturiol i’w weld, megis ar ddrysau a chownteri.
Mewn cyferbyniad, mae gan y Prif Goridor, sy’n arwain o’r brif fynedfa, loriau marmor a nenfydau fowtiau baril dwfn, a oedd yn bosib o ganlyniad i uchder mawr yr ystafelloedd ar y naill ochr a’r diffyg llety arall uwchben.
Mae’r coridor yn arwain at y prif ystafelloedd dinesig, sy’n cynnwys ystafell y maer, ystafelloedd pwyllgor, ystafelloedd gwisgo a derbyn, a Siambr y Cyngor. Mae’r ystafelloedd hyn yn cynnwys nifer o nodweddion o ddiddordeb, gan gynnwys defnydd mawr o bren collen Ffrengig yn y paneli a’r celfi, a nodweddion addurniadol o ddiddordeb lleol.
Yn olaf, ar ddiwedd y Prif Goridor, ond gyda mynediad ar wahân ei hun, y mae Neuadd Brangwyn.
Ffynhonnell: The Guildhall Swansea (Essays to Commemorate the Fiftieth Anniversary of its Opening) – An Architectural Appreciation of the Guildhall gan I J Campbell, golygwyd gan R Alban, BA, PhD, DAA (City Archivist) 1984
This post is also available in: English (English)