Ystyrir Syr Frank Brangwyn, R.A. (1867 – 1956) yn un o artistiaid mwyaf cynhyrchiol ac amryddawn Prydain. Mae ei waith wedi derbyn canmoliaeth ryngwladol, ac mae paneli enfawr yr Ymerodraeth Brydeinig yn Abertawe ymysg rhai o’r enghreifftiau pwysicaf o’i waith addurnol ar raddfa fawr. Mae Neuadd Brangwyn yn Neuadd y Ddinas yn adnabyddus am fod yn neuadd gyngherddau, cynadleddau a derbynfeydd pwysig, sy’n gwasanaethu Cymru a’r tu hwnt, ac mae’r paneli godidog hyn yn gwella’r neuadd ymhellach.
Mae stori Paneli Neuadd Brangwyn a’r amrywiaeth o ddarluniadau paratoadol diddorol yn dod i Abertawe yn un am fuddugoliaeth dros drychineb.
Ym 1924 pleidleisiodd Tŷ’r Arglwyddi i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy gwblhau’r addurniadau Fictoraidd (a gomisiynwyd gan Daniel Maclise gan y Tywysog Albert) yn yr Oriel Frenhinol, Palas San Steffan, Llundain. Cynigiodd yr Arglwydd Iveagh y ffi o £20,000 a dewisodd Frank Brangwyn, gyda chefnogaeth yr Arglwyddi eraill.
Roedd Brangwyn wedi astudio gyda William Morris, roedd yn artist swyddogol yn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd eisoes yn adnabyddus ledled y byd a chafodd ei ethol yn Academydd Brenhinol ym 1919.
Rhwng 1904 a 1909 bu’n gweithio ar Neuadd Gwmni Skinner gan greu paneli a oedd yn dangos eu hanes a hefyd dyluniodd furluniau amrywiol ar gyfer prosiectau tramor (e.e. San Francisco, Missouri, Winnipeg).
Yn dilyn marwolaeth ei wraig ym 1924, gwellodd lwc Brangwyn pan, ym 1925, enillodd arddangosfa fawr o’i waith yn Boston, yr UDA, glod beirniad a’r cyhoedd a sefydlwyd Comisiwn yr Oriel Frenhinol.
Bwriad Brangwyn oedd bywiogi’r Oriel Frenhinol ddiflas “gyda phaentiadau addurniadol i gynrychioli teyrnasoedd a rhannau amrywiol o’r Ymerodraeth Brydeinig”. Ni fwriadwyd unrhyw resymeg ddaearyddol; mae gan y paneli elfen o ffantasi sy’n dangos byd a ddiogelir llawn harddwch a digonedd, wedi’i seilio’n artistig ar deithiau helaeth Brangwyn yn ogystal â’i astudiaethau o anifeiliaid yn sŵ Llundain. Bu dau gynorthwy-ydd yn gweithio gydag ef a brasluniwyd dyluniadau sialc ar y cynfasau sgwariau. Caniataodd yr amrywiadau tonyddol ar gyfer anghydbwysedd y golau yn yr Oriel Frenhinol.
Rhwng 1927 a 1928, bu farw dau o brif gyfoedion Brangwyn ar y cynllun, ac ym 1930, ar gais Comisiwn Brenhinol Celfyddyd Gain, roedd yn rhaid i’r artist ddangos, rhywfaint yn amharod, y pum panel wedi’u cwblhau yn yr Oriel Frenhinol ei hun.
Cafwyd dadl gyhoeddus o ganlyniad; ystyriwyd bod y cynllun yn rhy lliwgar a bywiog, a chafodd ei wrthod. Anrhydeddodd aer yr Arglwydd Iveagh y comisiwn gwreiddiol a gwblhawyd ym 1932; dangoswyd y cynllun cyfan wedyn yn Olympia mewn lleoliad arbennig yn Arddangosfa ‘Ideal Home’ y Daily Mail ym 1933 gyda’i ddyfodol yn ansicr.
Mynegodd Caerdydd ac Abertawe ddiddordeb oherwydd enwogrwydd sylweddol Brangwyn a’i gysylltiadau Cymreig ar ochr ei dad. Sicrhawyd y cynllun Neuadd y Ddinas newydd yn Abertawe, gyda’r cynnig i godi nenfwd i 13.4 metr yn arbennig ar gyfer y paneli. Agorwyd Neuadd Brangwyn, â’r adeilad cyfan, yn swyddogol ym mis Hydref 1934 gan Ddug Caint ar y pryd ac, yn 1934, ymwelodd eu Mawrhydi Brenin Siôr VI a’r Frenhines Elizabeth â’r adeilad.
Cafodd Brangwyn ei galonogi cymaint gan ymateb Abertawe rhoddodd lawer o ddarluniadau ac astudiaethau cysylltiedig i’r cyngor, ffynhonnell o ddiddordeb hyd heddiw. Roedd hyn yn ffodus hefyd oherwydd roedd ewyllys Brangwyn yn archddyfarnu y dylid dinistrio ei holl bapurau pan fu farw ym 1956 yn 89 oed.
This post is also available in: English (English)