P’un a ydych am gynnal cynhadledd fawr, diwrnod hyfforddi, gweithgareddau adeiladu tîm, arddangosfa neu adloniant corfforaethol, gallwn gynnig ystafelloedd o wahanol feintiau i ddiwallu’ch anghenion.
Mae 14 ystafell ar gael, o’r ystafelloedd pwyllgor bach ar gyfer hyd at 16 cynrychiolydd ar ffurf ystafell fwrdd, i Neuadd Brangwyn ei hun gyda lle i 1,070 o bobl ar ffurf theatr.
Mae promenâd Bae Abertawe funudau’n unig o Neuadd Brangwyn, gan gynnig seibiant i’ch gwesteion o gynhadledd brysur, dyma’r lleoliad delfrydol am amgylchedd gweithio tu allan i’r swyddfa.
Neuadd Brangwyn
Lleoliad delfrydol ar gyfer cyngherddau, arddangosfeydd a chynadleddau. Mwy…
Ystafell Dderbyn yr Arglwydd Faer
Ystafell gain sy’n rhan o’r swît ddinesig a ddefnyddir gan yr Arglwydd Faer i dderbyn ymwelwyr pwysig. Mwy…
Ystafelloedd Cyfarfod/Pwyllgor
O giniawau busnes i gyfarfodydd bach, mae gennym ystafelloedd o wahanol feintiau i ddiwallu anghenion unrhyw fath o gyfarfod. Mwy…
Neuadd Siôr
Ystafell ryfeddol o gymesur at ddiben arddangosfeydd a digwyddiadau ciniawa llai. Mwy…
This post is also available in: English (English)